Dewiswch eich iaith
Diweddariad Mawrth 2024
Y ‘pips’
Roedd Chwefror 5ed eleni yn ganmlwyddiant defnyddio’r amsernod chwe pip, y ‘Greenwich Time Signal’, ar y radio am y tro cyntaf. Oeddech chi’n gwybod mai syniad Frank Hope-Jones oedd hwn, mab William Hope-Jones o Ruthun? Roedd Frank yn horolegydd enwog ac yn un o sefydlwyr Cymdeithas Radio Prydain, a’i frawd Robert yn enwog fel gwneuthurwr organau. Sefydlodd Frank gwmni Synchronome, a fu’n gwneud systemau clociau trydanol wedi’u sincroneiddio ers y 1890au. Yn 1913 cynlluniodd set Horophone risial yn benodol ar gyfer derbyn signalau amser o drosglwyddydd radio’r Tŵr Eiffel. Gellid defnyddio’r signalau hynny i osod unrhyw gloc neu oriawr i redeg yn gywir.
Oherwydd ei ddiddordeb yn y maes di-wifr dechreuodd gymryd rhan mewn darlledu cynnar arbrofol o ffatri Marconi yn Chelmsford, ac wedyn yn 1923 o 2LO, yr orsaf radio BBC gyntaf, yn Llundain. Yn 1923 awgrymodd y dylai’r BBC gyflwyno signal amser mwy cywir ar sail y pips hyglyw. Cefnogodd yr Astronomegydd Brenhinol, Frank Dyson, y syniad ac ar Chwefror 5ed 1924 darlledodd y BBC yr amsernod chwe pip o Greenwich. Cynhyrchwyd y chwe pip gan gloc a gynlluniwyd gan Frank Hope-Jones, a safai yng Ngwylfa Greenwich. Roedd eiliad rhwng pob pip a’r pip olaf oedd yn nodi dechrau’r awr. Mabwysiadwyd y syniad yn hwyrach gan ddarlledwyr eraill drwy’r byd. Erbyn heddiw mae’r chwe pip yn cael eu cynhyrchu gan gloc atomig ar lawr isaf Broadcasting House yn Llundain, sy wedi cael ei syncroneiddio i Amser y Labordy Ffisegol Cenedlaethol o NPL a GPS. Am fwy o’r hanes ac am recordiadau o droeon chwithig cyflwynwyr radio â’r pips, edrychwch ar y we.
Y Labordy Ffisegol yn Teddington (CC David Howard BY-SA 2.0)
O’r casgliad
Flynyddoedd yn ôl, byddai gwledydd ar draws Ewrop yn defnyddio tonfeddi Canol, oedd fel arfer yn cael eu defnyddio ar gyfer darlledu brodorol, i ddarlledu i wledydd cyfagos. Yr un mwyaf adnabyddus, wrth gwrs, oedd Radio Luxembourg. Roedd darlledu rhyngwladol yn cael ei ddarparu hefyd gan drosglwyddydd yn yr Almaen, "Deutschlandfunk- Europaprogramm", ar 1269kHz. Er mwyn cynorthwyo gwrandawyr tu allan i’r Almaen, cynhyrchon nhw antena sgwâr, y “Magic Disc”, i’w gosod wrth ymyl y radio yn y cartref, er mwyn gwella derbyniad!
Dyma’r ddisg yn yr Amgueddfa
Darlith nesaf
Ar nos Wener, Ebrill 5ed, bydd Mike Farnworth yn cyflwyno darlith Saesneg ar Sarn Helen, y Ffordd Rufeinig trwy Gymru, ar Zoom. Roedd Sarn Helen yn ffordd Rufeinig nodweddiadol yn cysylltu Gogledd Cymru â’r De, ac mae olion ohoni yn dal i’w gweld heddiw. Bydd y sgwrs hefyd yn trafod bywyd a theithio yn y Gymru Rufeinig, pam bod y Rhufeiniaid yma o gwbl a phwy yn union oedd Helen.
Bydd y ddarlith yn dechrau am 7.00 y.h. a chroeso cynnes i bawb wrando arni trwy gofrestru o flaenllaw ar wefan Cwmulus neu dudalen Facebook Gwefr heb Wifrau.
Ymweld â’r Amgueddfa
Bydd yr Amgueddfa yn cychwyn y tymor newydd ar gyfer ymwelwyr ddydd Sadwrn, Mawrth 30ain, 11.00-16.00. Ar y bore hwnnw hefyd bydd Bore Coffi â Stondinau yn cael ei gynnal, 10.00-12.00. Croeso cynnes i bawb.
Tudalen 1 o 43