Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Get Adobe Flash player

Atal y Wasg

Bydd yr Amgueddfa ar agor ddydd Llun, 21/05/2018.

 

Bydd yr Amgueddfa ar gau ddydd Llun, 28/05/2018.

 

 

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewngofnodi

Diweddariad Misol, Chwefror 2018

Diweddariad Misol, Chwefror 2018  

 

Mae gan Amgueddfa Gwefr heb Wifrau un derbynnydd teledu, y Bush TV12B sydd â sgrîn naw modfedd, 18 falf a thiwb pelydrau catod.  Dyma’r teledu a welwch fel arfer ar raglenni teledu sy’n dangos bywyd yn y 1950au cynnar.  Roedd ganddo nifer fawr o reolyddion er mwyn rheoli ffocws, disgleirdeb, cyferbyniad ac ati, a roedd rhaid newid y rhain wrth i’r noson fynd yn ei blaen ac wrth i’r cydrannau boethi.

Lansiwyd y derbynnydd teledu yma ym mis Medi 1949 ar yr un adeg â chychwyn Teledu BBC o Sutton Coldfield yng Nghanolbarth Lloegr, y tro cyntaf i deledu gael ei ymestyn oddi allan i Lundain.  Dyluniwyd ef i dderbyn signalau teledu o Sutton Coldfield ar sianel 4 VHF yn unig, a dim ond yn yr ardal honno y gweithiai.  Erbyn 1950, roedd y BBC yn dechrau sefydlu rhwydwaith o orsafoedd teledu ar draws y wlad, a chynhyrchodd Bush y TV22 a oedd yn medru derbyn teledu BBC o unrhyw le -  ar sianel 5 VHF yng Nghaerdydd er enghraifft.  

 

 

 

 

 

 

Yn 1955, cychwynnodd darlledu annibynnol ar sianeli newydd, 6 i 13, a golygai hyn na allai’r hen set deledu BBC yn unig, dderbyn y darllediadau newydd.  Felly cynhyrchwyd trawsnewidydd i’w blygio i mewn i’r teledu, fel ei fod yn medru derbyn ITV.  Dyma lun un ar gyfer set deledu Murphy.

 

 

Croeso cynnes i bawb i’r darlithiau nesaf yn ein cyfres:

Chwefror 16eg, “Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba”, gan Lila Haines.

Mawrth 16eg, “Datblygiad y Record Gramoffôn 78RPM", gan David Crawford, Curadur yr Amgueddfa.  Darlith flynyddol David Edward Hughes fydd hon.

Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.

Ebrill 27ain, darlith Gymraeg, "Yr Efe - T.H. Parry-Williams a'r Isymwybod", gan Ioan Talfryn.

Mai 18fed, “Mwyngloddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru”, gan Alan Jones.

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn. 

 

 

Diweddariad misol, Ionawr 2018

 Diweddariad Misol, Ionawr 2018  

 

Bu’r cyfnod cyn y Nadolig yn brysur iawn yn yr Amgueddfa. 

 

Ar Dachwedd 17eg, daeth Cliff Kearns a Clwyd Wynne i siarad â ni am lyfr newydd Cliff, ‘A Town at War – Denbigh and the Western Front’.  Llyfr wedi ei seilio ar brofiadau ei dad, Joe, yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw ond llyfr sy’n amlygu’r berthynas oedd rhwng Dinbych a Ffrynt y Gorllewin, er mor bell oedden nhw oddi wrth ei gilydd.  Roedd Joseph Kearns yn newyddiadurwr dan hyfforddiant i’r Free Press ac ymunodd â’r Ffiwsilwyr Cymreig pan oedd yn 16 oed.  Oherwydd ei sgiliau newyddiadurol a’i allu i ddefnyddio llaw-fer a chod Morse cafodd ei anfon gyda’r Uwch-Swyddogion i safleodd blaen y brwydro.  O fewn y flwyddyn, roedd wedi cael ei ladd.  Cofnodir ei enw mewn dyfyniad o bapur y Free Press, Rhagfyr 4ydd, 1915, gyda 187 o feibion eraill yr ardal a laddwyd yn y Rhyfel Mawr.  

 

‘Yr Ymgyrch am S4C’ oedd testun Angharad Tomos pan ymwelodd â’r Amgueddfa ar nos Wener, Tachwedd 24ain.  Soniodd am ei phrofiad o gyrraedd Prifysgol Aberystwyth ar ganol ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gael sianel deledu Gymraeg i Gymru.  Doedd ganddi ddim diddordeb yn y byd darlledu, ond gan fod Saunders Lewis wedi dweud mai’r “Teledu yw pennaf lleiddiad y Gymraeg” penderfynodd fod rhaid iddi hi ymuno â’r gweithredu.  Ei thasg gyntaf, ar ôl bod yn y Brifysgol am bum niwrnod, oedd dringo mast teledu Crystal Palace yn Llundain a chael ei charcharu am bum niwrnod.  Yn 1977 torrodd i mewn i drosglwyddydd teledu Winter Hill, Manceinion, ac arestiwyd hi gan yr Heddlu.  Eu cwestiwn nhw iddi oedd, “Beth yw eich cysylltiad chi â’r IRA?”  Ar ôl refferendwm 1979 penderfynodd Gwynfor Evans ymprydio at farwolaeth os na chai Cymru sianel Gymraeg a bu pobl Cymru yn gwrthod talu eu trwyddedau teledu.  O’r herwydd penderfynodd Prif Weinidog San Steffan, Margaret Thatcher, ganiatáu sefydlu pedwaredd sianel a fyddai’n cynnwys rhaglenni Cymraeg.  Cychwynnwyd S4C ar nos Wener, Tachwedd 1af, 1982, a mawr fu’r dathlu.  Ond, erbyn heddiw, oherwydd y diffyg cynnydd sydd wedi dilyn y cwtogi arianol, mae’r ymgyrchu wedi ail-ddechrau, ac mae rhai yn gwrthod talu eu trwyddedau teledu unwaith eto.  Maen nhw’n hawlio ei bod hi’n ‘hen bryd datganoli darlledu i Gymru’.

  

 

 

 Diolch i bawb a gefnogodd ein Bore Coffi ar Ragfyr 2ail.  Codwyd dros £600 i MaryDei, Mind Dyffryn Clwyd a’r Amgueddfa.

 

 

Dyma’r darlithiau nesaf yn ein cyfres ar gyfer y flwyddyn newydd:

Ionawr 19eg, “Creu Gemau”, gan John Clark.

Chwefror 16eg, “Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba”, gan Lila Haines.

Mawrth 16eg, “Darlledu yng Nghymru”, gan Ifor ap Glyn.  Darlith flynyddol David Edward Hughes fydd hon.

Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.

Ebrill 27ain, darlith Gymraeg gan Ioan Talfryn ar Syr T. H. Parry-Williams.

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Croeso cynnes i bawb.

 

Diweddariad misol, Rhagfyr 2017

 

Diweddariad misol, Rhagfyr 2017

    

Cyfnod Fictoria

 

 ‘Fferylliaeth yn Oes Fictoria’ oedd y ddarlith gyhoeddus ddiweddaraf yn ein cyfres am wyddoniaeth, hanes a darlledu.  Cyflwynodd Sue Clark ddarlun clir o gymdeithas yn y cyfnod hwnnw, gyda’r datblygiadau enfawr mewn diwydiant a arweiniodd at lwyddiant a chyfoeth i rai, ond at ddiweithdra, tlodi a newyn i eraill.  Soniodd am afiechydon mawr y cyfnod, fel y pas, twbercwlosis, difftheria, colera, y frech goch, a’r ffliw, a’r damweiniau erchyll a ddigwyddai yn y ffatrïoedd a’r gweithfeydd.  Doedd pobl ddim yn gwybod bod afiechydon yn cael eu lledaenu o un person i’r llall, oherwydd diffyg glanweithdra, a doedd dim sôn am reolau iechyd a diogelwch!  Roedd pobl gyfoethog yn gallu galw ar Feddyg i’w trin pan oedden nhw yn sâl, ond roedd rhaid i’r bobl dlawd fynd at yr Apothecari a gymysgai ffisig iddyn nhw.  Yn 1841, sefydlwyd Cymdeithas y Fferyllwyr a dechreuwyd hyfforddi fferyllwyr.

 

Dymau lun o fferyllfa Oes Fictoria.  Roedd yn le mawr gyda nifer o weithwyr yn cyflawni gwahanol swyddi.  Roedd y Fferyllydd yn trin pob math o afiechydon ac anhwylderau a chreai’r ffisig trwy dynnu cynhwysion o blanhigion, rhisgl ac ati, a’u cymysgu.  Cyflenwai’r meddygon lleol, y deintydd, a’r ysbyty, a byddai’n trin ceffylau hefyd gan eu bod mor bwysig ar gyfer cludiant.  Mae’n amheus a oedd y cymysgeddau hyn yn llesol, ac yn aml  defnyddiwyd cynhwysion gwenwynig heb yn wybod.

 

Yn y cyfnod hwn hefyd, sylweddolwyd cymaint oedd grym hysbysebu ac mae rhai o’r cynnyrch yn dal ar gael heddiw, fel y gwelir yn y llun.

 

Sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ym 1948, a mawr yw ein diolch iddo.  Mae’n bechod medddwl bod pobl ar draws y byd heddiw yn dal i ddioddef o afiechydon mawr Oes Fictoria oherwydd tlodi, newyn, rhyfel a dwr budr.

 

 

Y 40au

Mae’r Amgueddfa wedi creu Ystafell Fyw o’r 40au lle mae’n bosib eistedd i gael sgwrs a phaned.  Mae’n cynnwys dodrefn o’r cyfnod, radios, gramoffôn, a theledu o 1948 a dderbyniai Deledu BBC o Sutton Coldfield yn unig.  Mae yna Radiogram RGD o 1936 hefyd, y Radiogram gorau a gynhyrchwyd yn y Deyrnas Unedig cyn y rhyfel.  £126 oedd ei bris – £2 yr wythnos oedd cyflog athro ar y pryd.

 

 

 

Y presennol

 

Roedd cynnwrf mawr yn yr Amgueddfa yn ddiweddar pan lwyddodd Ceri, Brian a Hugh i gysylltu ag Amatur Radio arall, o’r enw Daniel, ym Mogota, Columbia.

 

 

 

 

Dyma’r darlithiau nesaf yn y gyfres:

Ionawr 19eg, “Creu Gemau”, gan John Clark.
Chwefror 16eg, “Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba”, gan Lila Haines.
Mawrth 16eg, “Darlledu yng Nghymru”, gan Ifor ap Glyn.  Darlith flynyddol David Edward Hughes fydd hon.
Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.
Ebrill 27ain, darlith Gymraeg gan Ioan Talfryn ar Syr T. H. Parry-Williams.

 

 

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Croeso cynnes i bawb.

                                    

Diweddariad Misol, Tachwedd 2017

Diweddariad Misol, Tachwedd 2017

 

 

Dyma recordydd gwifr Minifon P55, o 1955, a gyflwynwyd i’r Amgueddfa yn ddiweddar.  Dyfeisiwyd y recordydd gwifr gan Valdemar Poulsen o Ddenmarc, a wnaeth waith arwyddocaol iawn gyda darllediadau radio cynnar hefyd.  Roedd y recordydd yn gweithio yn debyg i recordydd tâp wrth i wifren ddur denau gael ei thynnu ar draws y pen recordio ar gyflymder.  Roedd hyn yn rhoi bron i awr o amser recordio, oedd yn hirach na record gramoffôn.  Roedd y recordydd gwifr yn boblogaidd iawn 1945-1954 fel peiriant arddweud ac ar gyfer recordio yn y cartref, ond wedyn cafodd ei ddisodli gan y recordydd tâp.

 

 

Cafwyd penwythnos llwyddiannus iawn yn yr Amgueddfa yn ystod ‘Drysau Agored’ Dinbych.  Bu dros drigain o bobl yn ymweld â’r Amgueddfa, nifer ohonynt o du allan i’r dref.  Cafwyd teithiau tywys, arddangosiadau gan yr Amaturiaid Radio a sesiynau celf a chrefft i blant ac oedolion.  Uchafbwynt y penwythnos oedd Lowri Jones yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd a llwyddiannau  “David Edward Hughes y Dyfeisiwr” trwy lygaid Blodwen, y forwyn.  

 

Mae ein rhaglen ddarlithiau misol yn mynd yn ei blaen yn hwylus.  Dyma’r rhai nesaf:

Yn Saesneg - ‘Dinbych a Ffrynt y Gorllewin’, gan Clwyd Wynne a Cliff Kearns ar Dachwedd 17eg.

        

Ac yn Gymraeg - ‘Yr Ymgyrch am S4C’, gan Angharad Tomos,  ar Dachwedd 24ain.  

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Croeso cynnes i bawb.

 

Bydd ein Bore Coffi eleni ar Ragfyr 2il yn Eirianfa, 10.00 y.b., pan fyddwn yn cydweithio â MaryDei a Mind Dyffryn Clwyd.

 

 

 

Diweddariad misol, Hydref 2017

Diweddariad misol, Hydref 2017

 

 

Bu’r haf yn gyfnod prysur i Amgueddfa Gwefr heb Wifrau.  Yn ogystal â’r gwaith cynnal a chadw arferol a chroesawu ymwelwyr, aethom ag arddangosfa  i amryw o lefydd:

Pabell Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn

 

Digwyddiad Amaturiaid Radio yng Nghanolfan Llyn Brenig

 

 

 Archifdy Sir Ddinbych ar gyfer ‘Drysau Agored’ Rhuthun

 

Daeth Cymdeithas Radio Gogledd Cymru o Landudno ar ymweliad â’r Amgueddfa un noson hefyd.

 

Ieuan Wyn Jones, cyn ddirprwy brif-weinidog, oedd ein siaradwr ym Mis Medi.  Cawsom sgwrs hynod ddiddorol am ei waith fel cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai neu M-SParc.  Bu’n sôn am sut oedd parciau gwyddoniaeth mewn rhannau eraill o’r byd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i economi ardaloedd a chreu swyddi da.  Eglurodd fod y cwmni yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i ffurfio dolen rhwng y Brifysgol a chwmnïau bach a mawr.  Bydd adeilad cyntaf y parc ger Gaerwen yn agor y flwyddyn nesaf.  

 

Mae rhaglen lawn o weithgareddau wedi ei threfnu ar gyfer tymor yr Hydref.

Darlithiau Saesneg:

‘Fferyllfeydd yn Oes Fictoria’, gan Sue Clark, ar Hydref 20fed.

‘Dinbych a’r Ffrynt Gorllewinol’, gan Clwyd Wynne a Cliff Kearns ar Dachwedd 17eg.

 

Darlithiau Cymraeg:

‘Yr Ymgyrch am S4C’, gan Angharad Tomos,  ar Dachwedd 24ain.  

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Croeso cynnes i bawb.

 

Darlithiau Cymraeg:

‘Yr Ymgyrch am S4C’, gan Angharad Tomos,  ar Dachwedd 24ain.  

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Croeso cynnes i bawb.

 Bydd ein Bore Coffi yn Eirianfa ar Ragfyr 2il am 10.00 y.b., ar y cyd â MaryDei a Mind.

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu hamlygu.

 

 

Dydd Sadwrn, Mehefin 2il:  10.00 y.b.:  Bore Coffi yn Eirianfa, Dinbych. LL16 3TS

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo